Skip to main content

Bydd amser eich cais yn dod i ben cyn bo hir

Cyn i chi ddechrau

Rhaid i’ch dirprwy fod yn gymwys i bleidleisio ar eich rhan.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo:

  • fod wedi’i gofrestru i bleidleisio yn y DU
  • meddu ar brawf adnabod ffotograffig os yw’n pleidleisio yn bersonol
  • bod yn ddirprwy i ddim mwy na 4 person gan gynnwys chi eich hun. Ni all mwy na dau o’r unigolion hynny fod yn byw yn y DU

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadarnhau gyda’ch dirprwy ei fod yn gymwys ac y gall pleidleisio ar eich rhan
  • sicrhau bod gennych fanylion cyswllt ar gyfer eich dirprwy, gan gynnwys y cyfeiriad yn y DU lle mae wedi’i gofrestru i bleidleisio

Beth fydd angen i chi ei ddarparu

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeiriad yn y DU lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio
  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft, pasbort
  • dyddiad penodol yr etholiad neu’r refferendwm yr hoffech gael pleidlais proxy ar ei gyfer, os mai dim ond unwaith yr hoffech gael pleidlais proxy
  • llun o’ch llofnod wedi’i ysgrifennu â phin ysgrifennu yn ystod y cais hwn

Sut i ddarparu llun o’ch llofnod

Rhaid i’ch llofnod fodloni’r gofynion canlynol:

  • rhaid iddo gael ei ysgrifennu mewn inc du ar bapur gwyn plaen
  • rhaid iddo edrych yr un peth ag arfer
  • ni ddylid ei ysgrifennu â stylus neu fys ar sgrin
Efallai y byddai’n haws i chi baratoi llun nawr, neu wneud cais ar ffôn symudol â chamera.

Cael help i lanlwytho llun o’ch llofnod

Os na allwch ddarparu llofnod neu lofnod sydd bob amser yn edrych yr un peth, gallwch wneud cais i hepgor y llofnod o fewn y gwasanaeth. Bydd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn penderfynu a ydych yn gymwys.

Os na allwch lanlwytho llun, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais am bleidlais drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd).