Skip to main content
Yn ôl

Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy – datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hwn ond yn gymwys i’r gwasanaeth ‘Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy’, sydd ar gael yn https://proxy-vote.service.gov.uk. Bwriedir i’r gwasanaeth hwn gael ei ddefnyddio gan bob unigolyn cymwys fel rhan o wefan ehangach GOV.UK, ond mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer gwefan GOV.UK.

Defnyddio’r gwasanaeth

Caiff y gwasanaeth hwn ei redeg gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, sydd am sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300%, heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gyda darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Roedd testun y gwasanaeth hefyd wedi’i wneud mor syml â phosibl.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn ei chael hi’n anodd defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn:

Efallai y bydd angen i’r gwasanaeth anfon negeseuon neu ddogfennau atoch chi a bydd MHCLG yn gofyn sut rydych chi am eu derbyn (post neu e-bost). Os oes angen fformat arall arnoch chi fel print bras, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol (ERO) yn uniongyrchol.

Adrodd am broblemau hygyrchedd

Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd gwasanaethau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os byddwch o’r farn nad yw gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni, anfonwch neges e-bost i ierservice@elections.gov.uk

Gorfodi a chwynion

Dylid anfon cwynion at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Hygyrchedd technegol a gwella

Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r gwasanaeth hwn mewn modd Beta cyhoeddus ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn destun archwiliad hygyrchedd llawn yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 a lefel gydymffurfiaeth AA. Roedd yn cydymffurfio’n rhannol a gwnaeth y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddatrys yr holl sylwadau nad ymdriniwyd â nhw. Bydd yn destun archwiliad arall cyn gynted â phosibl a dylai gydymffurfio’n llawn o ganlyniad i’r datrysiadau hyn.

Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn adolygu ac yn iteru’n barhaus er mwyn gwella ymhellach, gan liniaru effaith terfynau amser a chynnal y safonau hygyrchedd uchaf posibl yn gyffredinol.

Llunio’r datganiad

Lluniwyd y datganiad hwn ar 5 Hydref 2023 ac fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 10 Hydref 2023.