Sut i lanlwytho eich llofnod
1. Llofnodwch eich enw mewn inc du ar bapur gwyn plaen
Camau ar gyfer llofnodi
-
Llofnodwch eich enw mewn inc du ar bapur gwyn plaen.
Peidiwch â defnyddio:
- inciau lliw
- papur lliw
- papur wedi plygu
- papur gyda llinellau, sgwariau neu batrymau
- Gwnewch yn siŵr bod eich llofnod yn edrych fel eich llofnod arferol.
- Gwnewch yn siŵr bod eich llofnod i gyd ar y papur.


2. Creu llun o’ch llofnod
Camau os ydych yn defnyddio ffôn neu gamera
- Dewch o hyd i ardal sydd wedi’i goleuo’n dda fel na fydd unrhyw gysgodion yn y llun.
- Daliwch eich ffôn neu gamera uwchben eich llofnod fel bod y llofnod cyfan i’w weld.
- Chwyddwch i mewn (os oes angen) er mwyn cael gwared ar unrhyw beth yn y cefndir, er enghraifft eich desg.
- Tynnwch eich llun a chadarnhau ei fod yn bodloni’r gofynion.




Camau os ydych chi’n sganio’ch llofnod ar eich cyfrifiadur neu liniadur
- Cymerwch sgan o’ch llofnod.
- Gwnewch yn siŵr bod y llun yn bodloni’r gofynion isod.
3. Gwirio bod y llun o’ch llofnod yn bodloni’r gofynion
Dylai eich llun fodloni’r gofynion canlynol:
- mewn ffocws
- ni ddylai gynnwys olion na chysgodion
- ni ddylai fod unrhyw beth i’w weld o gwmpas yr ymylon, er enghraifft, eich desg
- y ffordd gywir i fyny
- ni ddylai fod yn fwy nag 20MB
4. Cadw neu drosglwyddo llun i’r ddyfais rydych yn gwneud cais arni
Dylech ei gadw yn rhywle y mae’n hawdd ei lanlwytho.
5. Lanlwytho eich llun o fewn y gwasanaeth
Pan fyddwch yn cyrraedd y sgrin ‘Lanlwytho eich llofnod’:
- ‘Dylech lusgo a gollwng’ eich llun i’r blwch neu glicio ar ‘Dewis ffeil i’w lanlwytho’ a’i ddewis o’ch dyfais.
- Dewiswch ‘Parhau’ Dylech weld llun o’ch llofnod. Gwnewch yn siŵr ei fod yn bodloni’r gofynion.
- Cyflwynwch eich llun neu gallwch ganslo a lanlwytho un arall os nad yw’n iawn.
Ar ôl ei lanlwytho, caiff eich llofnod ei gadw’n ddiogel.
Os na allwch lanlwytho llun, gallwch lawrlwytho, argraffu a llenwi ffurflen gais pleidleisio drwy ddirprwy. Anfonwch hi i’ch swyddfa cofrestru etholiadol.