Cyn i chi ddechrau
Rhaid i’ch dirprwy fod yn gymwys i bleidleisio ar eich rhan.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo:
- fod wedi’i gofrestru i bleidleisio yn y DU
- meddu ar brawf adnabod ffotograffig os yw’n pleidleisio yn bersonol
- bod yn ddirprwy i ddim mwy na 4 person gan gynnwys chi eich hun. Ni all mwy na dau o’r unigolion hynny fod yn byw yn y DU
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- cadarnhau gyda’ch dirprwy ei fod yn gymwys ac y gall pleidleisio ar eich rhan
- sicrhau bod gennych fanylion cyswllt ar gyfer eich dirprwy, gan gynnwys y cyfeiriad yn y DU lle mae wedi’i gofrestru i bleidleisio
Beth fydd angen i chi ei ddarparu
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y cyfeiriad yn y DU lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio
- eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft, pasbort
- dyddiad penodol yr etholiad neu’r refferendwm yr hoffech gael pleidlais proxy ar ei gyfer, os mai dim ond unwaith yr hoffech gael pleidlais proxy
- llun o’ch llofnod wedi’i ysgrifennu â phin ysgrifennu yn ystod y cais hwn
Sut i ddarparu llun o’ch llofnod
Rhaid i’ch llofnod fodloni’r gofynion canlynol:
- rhaid iddo gael ei ysgrifennu mewn inc du ar bapur gwyn plaen
- rhaid iddo edrych yr un peth ag arfer
- ni ddylid ei ysgrifennu â stylus neu fys ar sgrin
Cael help i lanlwytho llun o’ch llofnod
Os na allwch ddarparu llofnod neu lofnod sydd bob amser yn edrych yr un peth, gallwch wneud cais i hepgor y llofnod o fewn y gwasanaeth. Bydd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn penderfynu a ydych yn gymwys.
Os na allwch lanlwytho llun, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais am bleidlais drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd).